Cyflwyniad i’r Cynllun

Cyflwyniad

Mae Cynllun Rhannu Ceir Caerdydd wedi'i ddatblygu gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Jambusters Limited er mwyn darparu cronfa ddata drwy’r sir gyfan ar gyfer rhannu ceir.

Mae meddalwedd Cynllun Rhannu Ceir Caerdydd yn cyflwyno system gyfatebu ddatblygedig ar y fewnrwyd (dull o wneud rhannu ceir mor hwylus â phosibl yw’r meddalwedd mewn gwirionedd). Mae'r system yn dod o hyd i ranwyr ar sail ddaearyddol (man cychwyn a man gweithio) ac ar sail llwybr y daith.

Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i hyrwyddo rhannu ceir yn Sir Caerdydd. Bydd yn elfen allweddol ar gyfer twf yn y dyfodol, ac mae'n rhoi ystyriaeth ac yn dangos gofal tuag at y gymuned. Rydym yn eich annog i'n helpu i geisio lleihau tagfeydd traffig a llygredd. Ein bwriad yw agor y cynllun hwn ar gyfer cyflogwyr eraill yn Sir Caerdydd hefyd.

Manteision

Manteision y Cynllun

  • Llai o alw am fannau parcio
  • Llai o gostau cynnal a chadw
  • Llai o dagfeydd ar safleoedd
  • Llai o bwysau a straen ar y staff
  • Manteision ymddangosiadol i staff
  • Recriwtio a chadw staff

Manteision i’r Gweithwyr

  • Llai o dagfeydd sy’n arbed amser gwerthfawr ar ddechrau a diwedd y dydd
  • Llai o gostau tanwydd a chostau parcio drwy rannu’r costau o ddydd i ddydd
  • Llai o filltiroedd a thraul o ddydd i ddydd ar eich cerbyd
  • Llai o bwysau a straen ar y staff
  • Llai o lygredd traffig ac mae'n gymorth i leddfu'r pwysau cynyddol sydd ar yr amgylchedd
  • Mae’n ffordd fwy cymdeithasol a brafiach o deithio

Amcanion y Cynllun

Heb amheuaeth, y car yw’r ffordd fwyaf cyfleus o deithio i’r rhan fwyaf ohonom. Ar hyn o bryd mae dros 85% o weithwyr y DU yn defnyddio ceir i deithio i’w gwaith bob dydd. Drwy Gynllun Rhannu Ceir Caerdydd, y nod yw gwella'r sefyllfa bresennol i bawb sy'n defnyddio'r ffyrdd drwy leihau tagfeydd a lefel y traffig ar y rhwydwaith o ffyrdd yn y boreau a chyda'r nos - heb gyfyngu nac effeithio ar ddatblygiad dulliau eraill o deithio.

Wrth i fwy a mwy o bobl gofrestru ar y cynllun, bydd gwell cyfleoedd i ddod o hyd i ranwyr addas ymhlith yr aelodau cofrestredig. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gronfa ddata hwylus a hyblyg o staff sy’n barod i gyfrannu ac elwa ar y manteision yn y tymor byr a’r tymor hir.

 
logos cyflogwyr (cliciwch i weld manylion y cwmni)
Mae bod yn aelod o’r cynllun yn golygu y byddwch yn rhoi dewis arall i’ch gweithwyr ar gyfer teithio i’r gwaith, sy’n gymorth i gadw staff ac yn creu cyfleoedd recriwtio newydd.

Cynllunio teithio

Cyngor ar ddulliau o hybu teithio cynaliadwy
cadw caerdydd i symud Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o broblemau trafnidiaeth Caerdydd
© Hawlfraint Cyngor Caerdydd 2009 Cedwir pob hawl. I gael rhagor o wybodaeth am rannu ceir, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad hwn: Gweinyddwr RhannuCeirCaerdydd
Dyluniwyd gan Peter Gill Associates. Datblygwyd gan Jambusters Ltd