|
|
|
|
Gwybodaeth RhannuCeirCaerdydd i weithwyr
Gweler isod fanylion pellach am rai o’r gweithwyr sydd wedi ymuno â RhannuCeirCaerdydd
CBAC
Sefydlwyd CBAC yn 1948 fel cydbwyllgor awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.
Bellach mae’n elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant.
Mae is-gwmni, Gwasanaethau CBAC Cyfyngedig, yn darparu gwasanaethau argraffu a chyhoeddi arbenigol.
Ystyrir CBAC yn bennaf fel Corff Dyfarnu sy’n darparu gwasanaethau arholi ac asesu yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r cymwysterau a gynigir yn cynnwys amrywiaeth cynhwysfawr o TAG safonau U/UG, TGAU, Lefel Mynediad,
Bagloriaeth Cymru a Phroject a Phroject Estynedig, cymwysterau sy’n cynnwys gwaith ymchwilio personol,
a all fod yn annibynnol neu ei ymgorffori i Fagloriaeth Cymru.
Yn ogystal ag arholiadau ac asesiadau, mae CBAC yn cynnal cyrsiau datblygu proffesiynol ar gyfer athrawon
ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys cyrsiau i athrawon Cymraeg a’r rhai sy’n addysgu pynciau eraill drwy
gyfrwng y Gymraeg. Mae CBAC yn cynorthwyo athrawon a dysgwyr drwy greu adnoddau addysgol dwyieithog,
gan gynnwys deunyddiau ar-lein am ddim a ddarperir gan GCaD Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
a’i reoli gan CBAC.
Mae CBAC yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod gweithgareddau celfyddydol ieuenctid ar gael yn fwy eang
i bobl ifanc drwy reoli tri grwp sy’n rhan o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru,
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Fel sefydliad, mae CBAC yn ymrwymedig i annog ei weithlu i fod yn ystyriol o’r amgylchedd.
Ymhlith y blaenoriaethau mae lleihau ac ailgylchu gwastraff, arbed ynni ac annog staff i deithio
i’r gwaith gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf ecogyfeillgar.
Gobeithio y bydd ymuno â Chynllun Rhannu Ceir Cyngor Sir Caerdydd yn cyfrannu’n sylweddol at y nod olaf hwn.
|
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae 60 Aelod Cynulliad (AC) yn y Cynulliad Cenedlaethol, a etholir gan bobl Cymru.
Mae tua 350 o staff yn gweithio i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen i alluogi aelodau
etholedig i ymgymryd â'u gwaith craidd sef craffu ar waith Llywodraeth y Cynulliad.
Mae gan ein siambr drafod arobryn, Y Senedd, ym Mae Caerdydd, raddfa arbenigrwydd BREEAM, ac mae wrth galon
democratiaeth a datganoli yng Nghymru.
Gyda dyletswydd statudol i ystyried cynaladwyedd, mae'r Agenda Werdd wrth galon ein gwaith.
Mae holl ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd, yn cynnwys ein swyddfa weinyddol, T? Hywel ac Adeilad y Pierhead, sydd wedi ei
restru ar Raddfa 1, wedi ennill achrediad Draig Werdd Lefel 5 ac rydym wastad yn ymdrechu i wella ein perfformiad
amgylcheddol i leihau ein hallyriadau carbon ymhellach.
Mae ymuno â RhannuCeirCaerdydd yn rhan ganolog o'n cynllun trafnidiaeth, yn annog staff i fabwysiadu dulliau mwy
amgylcheddol-gyfeillgar o deithio i'r gwaith a thrwy hynny gwtogi ar eu gwariant a'u heffaith ar yr amgylchedd.
Mae gan y Cynulliad hefyd Dîm Gwyrdd sydd â'r nod o wella'r ffordd yr ydyn ni'n ymgymryd â'n dyletswyddau
amgylcheddol gyda syniadau arloesol ac awgrymiadau ynghylch ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.
|
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, â’i bencadlys yn Llys Charnwood, Parc Nantgarw, Caerdydd,
ar 1 Ebrill 1994 ac mae wedi tyfu’n raddol i reoli cyllideb o £150miliwn yn 2006/07 ac i ddarparu ystod
o wasanaethau arbenigol ar lefelau lleol, rhanbarthol a thrwy Gymru gyfan. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys
amrywiaeth o isadrannau sy’n arbenigo mewn gwasanaethau mor amrywiol â gofalu am gleifion canser yn Ysbyty
Felindre i reoli Rhwydwaith Digidol Cymru Gyfan ar gyfer GIG Cymru o Atebion Iechyd Cymru yn Nhy Brunel.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn isadran o fewn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a sefydlwyd ym mis Ebrill 1994.
Agorwyd y Ganolfan Ganser, gynt Ysbyty Felindre yn yr Eglwys Newydd ym 1956.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i 1.5 miliwn o bobl sy’n byw yn y de-ddwyrain.
Mae’r ganolfan yn un o’r 10 canolfan ganser fwyaf yn y DU, ac wedi prysuro’n arw dros y blynyddoedd. Rydym yn gweld
dros 5,000 o gleifion canser newydd a bron i 50,000 o apwyntiadau gan gleifion allanol bob blwyddyn. Mae’r Adran yn
cyflogi 600 o staff â chyllid o tua £22 miliwn.
Pan fydd claf yn cael ei gyfeirio i Ganolfan Ganser Felindre, maent yn dod dan ofal Oncolegwyr Clinigol a Meddygol
sy’n arbenigo mewn triniaeth canser nad yw’n llawfeddygol. Mae’r ganolfan yn cynnig llawdriniaethau sy’n gynnwys
radiotherapi a chemotherapi, a gynigir fel gwasanaeth dydd. Er mai yn Ysbyty Felindre y darperir y rhan fwyaf o’r
gwasanaethau, mae nifer o glinigau cleifion allanol perifferol yn ne-orllewin Cymru, yn ogystal â gwasanaethau
cemotherapi allanol.
Mae triniaethau cleifion allanol newydd wedi eu cyflwyno, ble bynnag fo’n bosibl i atal cleifion rhag gorfod aros
yn yr ysbyty. Yn y blynyddoedd diweddar mae'r ganolfan wedi prysuro ac wedi datblygu o ran cymhlethdod y gofal a’r
triniaethau a gynigir.
Mae’r ganolfan hefyd yn chwarae rôl bwysig yng Nghymru wrth hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol mewn gofal a
thriniaethau canser. Yn ogystal â rheoli’r rhaglen ar gyfer hyfforddi cofrestrwyr proffesiynol mewn Oncoleg
Clinigol a Meddygaeth Liniarol yng Nghymru, yr ysbyty yw canolfan Clinig Oncoleg Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru,
dan arweiniad yr Athro Malcolm Mason, a’r adran Meddygaeth Liniarol, dan arweiniad yr Athro Ilora Finlay.
Mae’r ganolfan hefyd yn chwarae rôl bwysig o ran hyfforddi nyrsys canser, fferyllwyr, ffisegwyr meddygol ac yn
darparu lleoliadau clinigol ar gyfer myfyrwyr Radiograffeg Therapiwtig o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.
|
Canolfan Mileniwm Cymru
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ganolfan rhyngwladol ar gyfer y celfyddydau ac yn eicon diwylliannol.
Mae’n gartref i naw sefydliad creadigol, sy’n cysylltu a chydweithio’n ddyddiol.
Erbyn diwedd 2008 bydd hyd at 750 o bobl yn cael eu cyflogi yma.
Mae staff yn teithio yma o Abertawe yn y gorllewin ac o Fryste yn y dwyrain,
yn ogystal ag Aberhonddu a nifer o drefi cymoedd y de.
Drwy gymryd rhan yn rhannuceircaerdydd.com nod Canolfan Mileniwm Cymru yw ei gwneud pethau’n haws i’r staff,
er mwyn eu helpu i gyfyngu eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau costau petrol a pharcio.
|
UWIC - Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) yn un o sefydliadau Prifysgol Ffederal Cymru.
Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr a chyllideb o dros £50 miliwn, mae UWIC yn brifysgol ganolig ei maint yn
sector y prifysgolion yn y DU.
Cafwyd pwerau i roi graddau a addysgir yn 1996, ond dan delerau aelodaeth UWIC o Brifysgol Cymru,
nid yw’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio a chaiff y myfyrwyr raddau Prifysgol Cymru.
Cafodd UWIC Farc Siarter y Llywodraeth - y safon cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth mewn gwasanaeth i gwsmeriaid - yn 1955,
1998, 2001 ac eto ym mis Mai 2005, sy’n golygu mai UWIC yw’r brifysgol gyntaf yn y DU i gael y Marc Siarter bedair gwaith.
Mae rhaglenni UWIC yn canolbwyntio’n benodol ar addysg uwch sy’n berthnasol i broffesiynau a galwedigaethau,
ac ar ymchwil sy’n cael ei dargedu’n bennaf ar natur.
Partneriaeth UWIC gyda RhannuCeirCaerdydd yw’r fenter ddiweddaraf i wneud UWIC yn lle "gwyrddach"
gyda nifer o brojectau eisoes ar y gweill i sicrhau bod cymuned UWIC yn gwneud pob peth sy’n bosibl i helpu’r amgylchedd.
Mae gan UWIC Grwp Defnyddwyr Beic (BUG) sy’n annog staff a myfyrwyr i ddefnyddio gwasanaeth bws Beicwyr UWIC,
ac mae cynlluniau ailgylchu wedi’u cyflwyno yn y pedwar campws, i enwi dim ond rhai o’r camau gwyrdd sydd ganddynt
Meddai Neil Woollacott (Dirprwy Reolwr Gwasanaethau Llety UWIC): "Bydd RhannuCeirUWIC yn hynod o fanteisiol
i'r holl staff ac yn galluogi aelodau i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd ac i leihau eu costau teithio."
|
Hyder Consulting
Mae Hyder Consulting yn adeiladu busnes ymgynghori ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,
a hynny ar ôl 150 mlynedd o ragoriaeth ym maes peirianneg.
|
|
|
Rydym yn fusnes rheoli, ymgynghori a chynllunio ym maes peirianneg sy’n helpu gwledydd a chwmnïau
i ddatblygu eu hadeiladau a’u seilwaith cynyddol gymhleth er mwyn gwella safonau byw, cefnogi
gweithgarwch masnachol a diogelu’r amgylchedd.
Mae’n prif wasanaethau’n cynnwys ymgynghori technegol a threfniadol a chynllunio,
dylunio a rheoli projectau seilwaith.
|
|
Dyma'n prif feysydd gwaith:
- Dwr
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Cynllunio a’r amgylchedd
- Rheilffyrdd
- Eiddo masnachol a diwydiannol
- Amddiffyn
- Telegyfathrebu
- Iechyd ac addysg
- Pwer/Ynni
- Y sector cyhoeddus
|
|
Yn ogystal â’r arbenigedd technegol yn y sectorau uchod, rydym hefyd yn cynnig arbenigedd mewn
disgyblaethau sy’n berthnasol i sawl maes o ran datblygu seilwaith fel peirianneg sifil a strwythurol,
asesu a pheirianneg amgylcheddol, geodechneg, peirianneg fecanyddol a thrydanol, a rheoli projectau.
|
Asiantaeth yr Amgylchedd
Yma yn Asiantaeth yr Amgylchedd, ein gwaith ni yw edrych ar yr amgylchedd a’i gwneud yn lle
gwell - i chi, ac i genedlaethau’r dyfodol.
Eich amgylchedd chi yw’r aer rydych chi’n ei anadlu,
y dwr rydych chi’n ei yfed a’r tir rydych chi’n cerdded arno.
Gyda 11,500 o staff a chyllideb o rhyw £850 miliwn, ni yw'r sefydliad mwyaf sy'n diogelu
ac yn gwella'r amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn ymdrin gydag aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cymunedol, diwydiant, ffermwyr,
busnesau o bob maint a’r Llywodraeth. Ein nod ni yw sicrhau’r safonau uchaf posibl wrth ymdrin â’n holl gwsmeriaid.
|
BBC Cymru Wales
BBC Cymru Wales yw darlledwyr cenedlaethol Cymru, yn darparu gwasanaethau teledu,
radio ac ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn Llandaf a Chaerdydd mae pencadlys BBC Cymru Wales, ac mae ganddynt stiwdios a swyddfeydd ym Mangor,
Wrecsam, Aberystwyth, Abertawe a Chaerfyrddin hefyd.
Mae BBC Wales yn cynhyrchu dros 16 awr o raglenni teledu Saesneg yr wythnos, wedi’u teilwra ar gyfer
cynulleidfa Gymreig. Darlledir y rhain ar BBC ONE Wales a BBC TWO Wales. Yn ychwanegol, cynhyrchir
10 awr yr wythnos o raglenni teledu Cymraeg i’w darlledu ar S4C. Mae BBC Cymru Wales hefyd yn cynnal
gwasanaethau ar-lein cynhwysfawr yn y Saesneg a’r Gymraeg.
Ar y radio, gall gwrandawyr glywed 19 awr o raglenni Saesneg bob dydd, yn ogystal ag 20 awr y dydd
yn y Gymraeg ar BBC Radio Cymru. Mae BBC Wales hefyd yn cyfrannu yn sylweddol at y rhaglenni teledu
a radio a ddarlledir ledled y DU, trwy gynyrchiadau megis Doctor Who a Torchwood.
|
Coleg Glan Hafren
We are Cardiff's largest further education college, spread over four sites,
with 800 courses and 13000 students, from all learning abilities and backgrounds, ranging from 16 to 80 in age.
|
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
CGGC yw llais y sector gwirfoddol.
Mae'n cynrychioli ac yn ymgyrchu ar ran sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru.
Mae CGGC yn cynrychioli’r sector ar lefel Ewropeaidd, y DU a chenedlaethol,
ac ynghyd ag amrywiaeth o asiantaethau arbenigol,
Cynghorau Gwirfoddol Sirol, biwros gwirfoddoli ac asiantaethau datblygu eraill, mae'n rhoi cefnogaeth i'r sector yng Nghymru.
|
|
|
|