|
|
|
|
Cyngor Diogelwch ar gyfer Teithio
Wrth deithio, mae pob aelod yn gyfrifol am ei ddiogelwch ei hun.
Rydym yn argymell fod aelodau'n cymryd y camau diogelwch sylfaenol hyn:
- Peidiwch byth â rhoi eich cyfeiriad cartref i’ch cyd-deithwyr cyn eu cyfarfod.
- Trefnwch i gyfarfod mewn lle cyhoeddus bob amser.
- Rhowch wybod i gyfaill neu berthynas gyda phwy y byddwch yn teithio, pa bryd ac i ble.
- Cofiwch ffonio i roi gwybod eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel ar ddiwedd eich taith.
- Cofiwch nad oes rhaid i chi rannu unrhyw daith os nad ydych chi eisiau.
- Cofiwch ddangos pwy ydych chi - pasport, cardiau myfyrwyr neu drwyddedau gyrru - er mwyn gwybod eich bod yn teithio gyda’r person cywir.
- Cofiwch roi gwybod i’ch cyd-deithiwr os na allwch chi fod yno neu os byddwch chi’n hwyr.
- Peidiwch byth â defnyddio ffôn symudol wrth yrru oni bai fod gennych offer cyfreithiol i ddefnyddio ffôn yn y car. Mae'n well parcio mewn man diogel i wneud yr alwad.
- Os oes gennych chi unrhyw amheuon am eich cyd-deithiwr, am unrhyw reswm, ni ddylech deithio gyda hwy.
- Os cewch chi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni ar unwaith a byddwn yn helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.
|
|
|