Amodau
Mae’n rhaid i Gyngor Caerdydd a Jambusters Limited nodi mai cyfrifoldeb pob unigolyn sy’n
rhannu ceir yw cymryd yr holl ragofalon diogelwch rhesymol wrth gymryd rhan yn y cynllun Rhannu Ceir.
Rhaid i chi gael yswiriant llawn ac fe’ch cynghorir chi i roi gwybod i’ch cwmni yswiriant
eich bod wedi cofrestru â’r Cynllun Rhannu Ceir. Ni ddylai hyn godi pris eich yswiriant.
Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn gadael i chi gludo teithwyr ar eich siwrnai i’r gwaith,
ar yr amod nad ydych chi’n codi tâl ar eich teithwyr ar wahân i gostau rhedeg y cerbyd.
Ein hatebolrwydd i chi
Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gynhwysfawr ac er gwaethaf pob ymdrech, efallai nad yw’n gywir,
wedi’i diweddaru neu’n berthnasol i amgylchiadau unrhyw achos penodol. Ni allwn dderbyn unrhyw
atebolrwydd am unrhyw wybodaeth anghywir neu wybodaeth goll (ac eithrio yn achos gwybodaeth sy’n
anghywir drwy dwyll) ar y wefan hon a’ch cyfrifoldeb chi’n llwyr yw unrhyw benderfyniadau a wnewch
ar sail y wybodaeth sydd ar y wefan hon. Ni fydd Cyngor Caerdydd, Jambusters Limited nac unrhyw
un o’u his-gwmnïau yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol,
arbennig, dilynol nac o unrhyw fath arall sy’n deillio o agor neu ddefnyddio’r wefan hon neu unrhyw
wybodaeth sydd arni.
Ac eithrio yn achos gwybodaeth bersonol, a fydd yn cael ei thrin yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data,
os byddwch chi’n rhoi gwybodaeth i ni rydych chi’n cytuno bod gennym ni hawliau anghyfyngedig dros
unrhyw wybodaeth o’r fath sy’n amherthnasol i’r Ddeddf Diogelu Data ac y gallwn ddefnyddio gwybodaeth
o’r fath ym mha bynnag ffordd y dymunwn yn yr awdurdod. Ni fydd gwybodaeth o’r fath yn cael ei thrin
yn gyfrinachol.
Wrth gwrs, byddwn yn barod i ystyried unrhyw sylwadau sydd gennych am y wefan – gallwch eu hanfon atom
drwy e-bost i
RhannuCeirCaerdydd
Yr hyn a wnawn â gwybodaeth bersonol
Nid yw Cyngor Caerdydd yn dal na chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy'n pori trwy'r wefan,
oni bai eich bod yn dewis rhoi eich manylion personol i ni o wirfodd trwy e-bost neu ar ffurflen ar-lein
i ymholi neu ymgeisio am unrhyw un o'n gwasanaethau.
Pan fyddwch yn dewis llenwi unrhyw un o'n ffurflenni ar-lein defnyddir y wybodaeth bersonol a ddarparwch,
gan Gyngor Caerdydd neu ddarparwr gwasanaeth trydydd parti sydd wedi'i gontractio i ni, i ddarparu'r
gwasanaeth(au) a ofynoch amdanynt. Bydd Cyngor Caerdydd yn ymdrechu i ddiogelu eich gwybodaeth a bydd
unrhyw ymwadiadau o'r wybodaeth honno yn unol â'n cofrestriad dan y Ddeddf Diogelu Data 1998.
Bydd angen i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti a gontractwyd i'r Cyngor gydymffurfio i'r un safonau.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data 1998, yn ogystal â hawliau pobl
i gyfrinachedd a pharch tuag at breifatrwydd. Byddwn yn ymdrin â'ch gwybodaeth breifat â pharch.
Fe'i cedwir yn ddiogel a dim ond y staff hynny â hawl i'w weld, sydd â mynediad iddo. Byddwn yn gwneud
ein gorau i gadw gwybodaeth amdanoch yn gywir a diweddar. Pan nad oes angen i ni gadw gwybodaeth amdanoch
mwyach, byddwn yn cael gwared ag ef mewn modd diogel. Os hoffech wybod mwy, gan gynnwys ynglyn â sut ydym
yn edrych ar ôl eich gwybodaeth, cysylltwch â: Y Rheolwr Gwybodaeth yn Neuadd y Sir, Caerdydd, 029 2087 3331
Perchnogaeth yr hawlfraint a’r nodau masnach ar y safle hwn
Mae holl gynnwys y safle hwn a phob deunydd sydd i’w lwytho i lawr wedi’u trwyddedu’n uniongyrchol gan
Gyngor Caerdydd, oni bai y nodir yn wahanol. Cedwir pob hawl.
Rydych chi’n gyfrifol am gydymffurfio â’r holl gyfreithiau hawlfraint perthnasol. Rydym yn caniatáu i
chi wneud copïau o’r wefan hon fel gweithredoedd angenrheidiol achlysurol wrth edrych arni a gallwch
argraffu ohoni ar gyfer eich defnydd personol ac at ddibenion preifat cyn belled ag y mae hynny’n rhesymol.
Mae pob defnydd arall wedi’i wahardd yn llwyr.
Mae Cyngor Caerdydd a Logo Caerdydd yn nodau masnach Cyngor Caerdydd. Ni chewch fframio’r wefan hon na
chysylltu â thudalen ar wahân i’r brif dudalen heb ein caniatâd penodol.
Defnydd o unrhyw ddolen
Nid yw Cyngor Caerdydd nac unrhyw un o’i is-gwmnïau na’i gwmnïau cysylltiedig yn gyfrifol am gynnwys
unrhyw wefan arall, gan gynnwys unrhyw wefan sy’n arwain at ein gwefan ni. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd
mewn perthynas ag unrhyw safleoedd neu ddolenni o’r fath. Rydych chi’n gyfrifol am ddarllen a chydymffurfio
â’r datganiadau preifatrwydd a’r telerau defnyddio sydd ar unrhyw wefan gysylltiedig o’r fath.
Pa gyfraith sy’n berthnasol i’r wefan hon?
Byddwch yn defnyddio’r wefan hon ac yn llwytho deunydd i lawr ohoni yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr,
sydd hefyd yn berthnasol i’r telerau a’r amodau hyn. Gan y llysoedd fydd yr unig awdurdod dros unrhyw
anghydfod sy’n deillio o’ch defnydd chi o’r wefan hon.
Os bydd awdurdod cymwys yn pennu bod unrhyw delerau neu unrhyw ran o’r telerau a’r amodau hyn yn annilys
neu’n anghyfreithlon, neu nad oes modd eu gorfodi i unrhyw raddau, bydd y telerau hynny i’r graddau hynny
yn cael eu dileu ond bydd gweddill y telerau’n dal yn ddilys a bydd modd eu gorfodi’n llawn yn unol â’r gyfraith.
|