Cwestiynau Cyffredin

Beth yw rhannu ceir?

Rhannu ceir yw pan fydd dau neu fwy o bobl yn penderfynu teithio i’r gwaith gyda’i gilydd mewn un car, yn hytrach nag ar wahân. Nid yw’n hepgor pobl a fyddai’n deithwyr fel rheol neu’n teithio ar fathau eraill o drafnidiaeth, ond y prif amcan yw cael cerbydau oddi ar y ffordd drwy gynyddu’r nifer o bobl sydd ym mhob car.

Sut mae rhannu ceir yn gweithio?

Unwaith i chi lenwi’r ffurflen gofrestru, bydd eich manylion yn cael eu rhoi ar y gronfa ddata. Bydd y system Rhannu Ceir wedyn yn llunio rhestr o bobl addas i rannu â nhw; pobl i’w codi ar y ffordd neu bobl sy’n byw’n agos atoch chi ac yn cwrdd â’r meini prawf a nodwyd gennych. O’r rhestr hon, eich cyfrifoldeb *chi* wedyn yw cysylltu â’ch gilydd a threfnu cynllun rhannu ceir sy’n gyfleus i bawb.

Nid oes rhaid i chi ymrwymo’ch hun yn ormodol yr adeg hon. Un dewis yw cael cyfnod prawf a gosod dyddiad i adolygu’r sefyllfa. Bydd hyn yn eich galluogi i roi’r gorau i rannu os nad yw’r trefniadau’n addas i bawb.

Pam ddylwn i ystyried rhannu ceir?

Mae nifer fawr o resymau:

  • Mae’n lleihau traffig ac yn arbed amser gwerthfawr i chi ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd
  • Mae’n lleihau costau tanwydd a chostau parcio drwy rannu’r costau o ddydd i ddydd
  • Mae’n lleihau’r milltiroedd a’r traul o ddydd i ddydd ar eich cerbyd
  • Mae’n lleihau llygredd traffig ac yn gymorth i leddfu’r pwysau cynyddol sydd ar y gymuned leol a’r amgylchedd
  • Mae’n ffordd fwy cymdeithasol a brafiach o deithio

Beth am rannu costau?

Mae sawl ffordd o wneud hyn. Os byddwch chi’n dod o hyd i ffordd sy’n gweithio’n arbennig o dda i’ch tîm chi, anfonwch e-bost at weinyddwr y cynllun gyda’r manylion. Bydd unrhyw ddulliau newydd addas yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o awgrymiadau.

  • Mae modd cymryd tro am yn ail, wrth i chi yrru am un wythnos a’ch partner yrru’r wythnos wedyn
  • Os mai dim ond un gyrrwr sydd, gall ef neu hi godi tâl ar y teithwyr am y siwrnai: mae Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd yn awgrymu eich bod yn codi 10c y filltir ar gyfer teithiau o dan 20 milltir a 7c y filltir ar gyfer teithiau dros 20 milltir.

Beth am yswiriant?

Rhaid i chi gael yswiriant llawn ac fe’ch cynghorir i roi gwybod i’ch cwmni yswiriant eich bod wedi cofrestru â’r Cynllun Rhannu Ceir. Ni ddylai hyn godi pris eich yswiriant. Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn gadael i chi gludo teithwyr ar eich siwrnai i’r gwaith, ar yr amod nad ydych chi’n codi tâl ar eich teithwyr ar wahân i gostau rhedeg y cerbyd.

Cliciwch yma i weld datganiad gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain a llythyr sampl y gallwch ei ddefnyddio os ydych chi’n dymuno cysylltu â’ch cwmni yswiriant.

Oes rhaid i mi rannu bob diwrnod?

Nac oes, fe allwch chi ddewis diwrnodau penodol i rannu ac mae lle i nodi’r rheiny ar y ffurflen gofrestru.

Beth os ydw i’n rhannu car ac yn gorfod gadael y gwaith ar frys?

Os ydych chi’n deithiwr ac yn gorfod gadael y gwaith ar frys am resymau annisgwyl, mae nifer o gyflogwyr wedi cytuno i drefnu lifft neu dacsi adref i chi. Mae hyn yn wir hefyd yn achos unrhyw deithiwr os yw’r gyrrwr wedi gorfod gadael yn annisgwyl.

Beth os mai fi sy’n gyrru a fy mod i’n sâl?

Rhaid i chi gysylltu â’ch partner(iaid) rhannu ceir ar unwaith fel y gallan nhw wneud trefniadau eraill. Fel teithiwr hefyd, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r gyrrwr os byddwch chi’n sâl er mwyn iddynt wybod nad oes angen eich codi.

Beth os ydw i’n gweld nad yw rhannu ceir yn addas i mi?

Os na fydd rhannu ceir yn addas i chi, fe allwch chi roi’r gorau iddi unrhyw bryd.

Rwy’n gweithio shifftiau. Oes modd rhannu o hyd?

OES, mae rhannu ceir yn hyblyg. Os ydych chi’n gweithio oriau afreolaidd, byddwn yn eich cyfeirio at weithwyr sy’n gweithio oriau tebyg i chi.

Dim ond yn achlysurol y mae gen i gar. Oes modd rhannu o hyd?

Oes, bydd y system yn dod o hyd i bobl sy’n gallu rhannu â chi ar y diwrnodau perthnasol yn unig.

Sut mae cynllunio taith gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Ewch i www.traveline-cymru.info. Fe allwch chi gynllunio’ch taith o ddrws i ddrws a chymharu amseroedd a phellteroedd y daith mewn car/trên/bws/awyren.

Os oes gennych chi ragor o sylwadau neu gwestiynau cysylltwch â Gweinyddwr RhannuCeirCaerdydd ac fe allwn ni gynnwys atebion i unrhyw gwestiynau cyffredin ar y wefan i ddefnyddwyr eraill.

 
logos cyflogwyr (cliciwch i weld manylion y cwmni)
Mae bod yn aelod o’r cynllun yn golygu y byddwch yn rhoi dewis arall i’ch gweithwyr ar gyfer teithio i’r gwaith, sy’n gymorth i gadw staff ac yn creu cyfleoedd recriwtio newydd.

Cynllunio teithio

Cyngor ar ddulliau o hybu teithio cynaliadwy
cadw caerdydd i symud Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o broblemau trafnidiaeth Caerdydd
© Hawlfraint Cyngor Caerdydd 2009 Cedwir pob hawl. I gael rhagor o wybodaeth am rannu ceir, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad hwn: Gweinyddwr RhannuCeirCaerdydd
Dyluniwyd gan Peter Gill Associates. Datblygwyd gan Jambusters Ltd