Sut i...

Cyflwyniad

I gofrestru gyda RhannuCeirCaerdydd o’r brif dudalen, ewch i’r dudalen Groeso.

Mae modd i chi weld Cwestiynau Cyffredin, y canllaw "Sut i..." hwn, yr amodau, y dudalen e-bostio ac amserlenni bysus a threnau lleol HEB orfod mewngofnodi i’r system. Os nad ydych chi wedi mewngofnodi, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen Groeso unrhyw bryd drwy glicio ar y dudalen Groeso yn y golofn ar y chwith.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru’ch manylion, dylech fewngofnodi i RhannuCeirCaerdydd drwy roi eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad e-bost llawn, os rhoesoch chi hwn) a’r cyfrinair a roddwyd i chi gan y system wrth gofrestru. Byddwch wedyn yn cael eich arwain i'ch prif dudalen RhannuCeirCaerdydd.

Cofrestru eich manylion personol a'ch dewisiadau rhannu ceir

Er mwyn gallu chwilio am ranwyr ceir posibl, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw rhoi ychydig o fanylion personol a'ch dewisiadau teithio. O dudalen groeso RhannuCeirCaerdydd, cliciwch ar "cofrestru". Dilynwch y cyfarwyddiadau a llenwi'r blychau y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn orfodol i roi eich manylion personol, e.e. enw a chod post (sy’n hanfodol), a’ch dewisiadau rhannu ceir penodol, e.e. ar ba ddiwrnodau ydych chi am rannu (nid oes rhaid i chi rannu bob dydd), ar ba amseroedd ydych chi am gyrraedd a gadael ar y diwrnodau hynny ac ambell i ddewis arall, e.e. ydych chi’n dymuno ysmygu neu beidio.

Er mwyn cadw’r dewisiadau hyn, cofiwch glicio ar y botwm "anfon" ar waelod y dudalen ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau.

Mewngofnodi i adran bersonol y safle hwn

Ar y dudalen groeso dylech fewngofnodi drwy deipio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn y blychau priodol ac yna clicio ar "mewngofnodi!". Byddwch wedyn yn cael eich arwain i’ch prif dudalen bersonol ar wefan RhannuCeirCaerdydd. O'r fan hon fe allwch chi chwilio am ranwyr ceir posibl, newid eich manylion personol a manylion eich gwaith, a newid eich cyfrinair.

Fel arfer, eich enw defnyddiwr fydd eich enw neu’ch cyfeiriad e-bost. Os digwydd i chi anghofio neu golli’ch cyfrinair, ewch i’r dudalen groeso, rhowch eich enw defnyddiwr yn y 3ydd blwch a chliciwch ar "fy atgoffa". Rydym yn argymell eich bod yn newid eich cyfrinair i un y gallwch ei gofio'n haws na'r un gwreiddiol a roddodd y system i chi.

Newid eich cyfrinair

I newid eich cyfrinair, ewch i "cyfrinair" ar eich prif dudalen ar wefan RhannuCeirCaerdydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau a chliciwch ar "parhau". Ar y sgrin nesaf, cliciwch ar "parhau" i fynd yn ôl i'ch prif dudalen neu ar "allgofnodi" yn y golofn ar y chwith, ac yna ewch yn ôl i'r dudalen groeso i roi cynnig ar fewngofnodi gyda’ch cyfrinair newydd.

Newid eich manylion personol a manylion eich gwaith

I weld neu i newid eich manylion personol a manylion eich gwaith, ewch i "manylion" ar eich prif dudalen ar wefan RhannuCeirCaerdydd. Gofalwch fod y manylion i gyd yn gywir gan newid unrhyw beth sy'n anghywir.

Pan fydd unrhyw un o’ch amgylchiadau personol sy'n berthnasol i'r wefan hon yn newid, mewngofnodwch a diweddaru'ch manylion cyn gynted â phosibl.

Unwaith y byddwch chi wedi gwneud unrhyw newidiadau i’r manylion a’r dewisiadau uchod, cliciwch ar "anfon" er mwyn cadw’r newidiadau hynny. Cliciwch ar "parhau" ar y sgrin gydnabod er mwyn mynd yn ôl i’ch prif dudalen ar wefan RhannuCeirCaerdydd.

Diweddaru’ch dewisiadau rhannu ceir

O’ch prif dudalen ar wefan RhannuCeirCaerdydd, cliciwch ar "dewisiadau". Gofalwch fod y manylion yn gywir gan newid unrhyw beth sydd bellach yn amherthnasol, e.e. pa ddiwrnodau rydych chi am rannu (nid oes rhaid i chi rannu bob diwrnod), ar ba amseroedd rydych chi am gyrraedd a gadael ar y diwrnodau hynny, ac a ydych chi'n dymuno ysmygu neu beidio a.y.b.

Er mwyn cadw'r dewisiadau hyn, cofiwch glicio ar "anfon" ar waelod y dudalen.

Cliciwch ar "parhau" ar y dudalen gydnabod i fynd yn ôl i’ch prif dudalen ar wefan RhannuCeirCaerdydd.

Chwilio am ranwyr ceir posibl

I ddod o hyd i ranwyr ceir posibl, cliciwch ar "rhanwyr". Bydd hyn yn eich arwain i dudalen y map.

Mae’r rhanwyr gwreiddiol yn cael eu darganfod o fewn radiws o 5 milltir i'ch cod post cartref neu'ch cod post man cychwyn, ac o fewn +/- 30 munud i’ch amseroedd cyrraedd a gadael delfrydol. Chi yw’r car gwyrdd, ac mae unrhyw gar coch yn dynodi rhanwyr ceir posibl.

Os ydych chi’n dymuno newid y meini prawf hyn - er enghraifft, i chwilio drwy ardal ehangach neu am amseroedd llai pendant, dewiswch o'r rhestri cwympo yn y blychau perthnasol a chlicio ar "chwilio".

I gael rhagor o fanylion am y rhanwyr ceir posibl sydd ar y system, naill ai sgroliwch i lawr y dudalen neu cliciwch ar y ddolen "rhanwyr" ar frig y dudalen. Bydd manylion cyffredinol y rhanwyr ceir posibl i'w gweld mewn tabl gyda hyd at bump ar bob tudalen.

I gael rhagor o wybodaeth am y dudalen hon, neu os bydd angen cymorth pellach arnoch chi, cliciwch ar "help" ar frig tudalen y map i gael cyfarwyddiadau manylach.

O’ch prif dudalen ar y wefan Rhannu Ceir fe allwch chi...

  • Chwilio am ranwyr ceir posibl
  • Sefydlu grŵp rhannu ceir newydd
  • Newid eich manylion personol a manylion eich gwaith
  • Newid eich dewisiadau teithio
  • Newid eich cyfrinair
  • Gadael RhannuCeirCaerdydd

Sefydlu grŵp rhannu ceir newydd

Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu ag aelodau eraill ac wedi trefnu i sefydlu grŵp rhannu ceir newydd, dylai un ohonoch fynd yn ôl ar y system fel "Arweinydd Grŵp". Mewngofnodwch i'ch prif dudalen ar wefan Cynllun Rhannu Ceir Cyngor Caerdydd a chlicio ar "grŵp newydd".

Dilynwch y cyfarwyddiadau, teipiwch gyfeiriadau e-bost eich aelodau a chadw’r ychwanegiadau drwy glicio ar "sefydlu grŵp".

Gadael Cynllun Rhannu Ceir Cyngor Caerdydd

Os ydych chi’n dymuno gadael RhannuCeirCaerdydd, cliciwch ar "ymddeol". Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â
Gweinyddwr RhannuCeirCaerdydd

 
logos cyflogwyr (cliciwch i weld manylion y cwmni)
Mae bod yn aelod o’r cynllun yn golygu y byddwch yn rhoi dewis arall i’ch gweithwyr ar gyfer teithio i’r gwaith, sy’n gymorth i gadw staff ac yn creu cyfleoedd recriwtio newydd.

Cynllunio teithio

Cyngor ar ddulliau o hybu teithio cynaliadwy
cadw caerdydd i symud Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o broblemau trafnidiaeth Caerdydd
© Hawlfraint Cyngor Caerdydd 2009 Cedwir pob hawl. I gael rhagor o wybodaeth am rannu ceir, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad hwn: Gweinyddwr RhannuCeirCaerdydd
Dyluniwyd gan Peter Gill Associates. Datblygwyd gan Jambusters Ltd