Canllaw i Ddefnyddwyr

Cyflwyniad

Ewch i’r brif sgrin fynediad, y dudalen Groeso, er mwyn cofrestru ar Rhannu Siwrne i Gaerdydd.

Mae’r Cwestiynau Cyffredin, y Canllaw Defnyddiwr hwn, y dudalen e-bostio, yr amodau a’r amserlenni trenau a bysus lleol ar gael heb fewngofnodi i’r system. Os nad ydych wedi mewngofnodi, dychwelwch i’r dudalen Groeso ar unrhyw adeg drwy glicio Tudalen Groeso yn y golofn ar y llaw chwith.

Ar ôl i chi gofrestru’ch manylion, mewngofnodwch i Rhannu Siwrne i Gaerdydd drwy ddefnyddio’ch enw defnyddiwr (eich cyfeiriad e-bost llawn, os gwnaethoch nodi un) a’r cyfrinair a gawsoch gan y system wrth gofrestru. Byddwch wedyn yn cael eich cyfeirio i’ch hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd.

O’ch hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd, gallwch:

  • chwilio am rai a allai rannu car neu siwrne â chi
  • sefydlu grŵp rhannu ceir neu siwrne newydd
  • newid eich manylion personol a manylion eich cyflogaeth
  • newid eich dewisiadau teithio
  • newid eich cyfrinair
  • gadael Rhannu Siwrne i Gaerdydd.

Cofrestrwch eich manylion personol a’ch dewisiadau ar gyfer rhannu ceir neu siwrne

Er mwyn chwilio am bobl a allai rannu siwrne neu gar â chi, nodwch ychydig o fanylion personol a’ch dewisiadau teithio. O dudalen groeso Rhannu Siwrne i Gaerdydd, cliciwch 'cofrestru'. Dilynwch y cyfarwyddiadau a nodi’ch manylion personol yn y bocsys, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn orfodol e.e. eich enw, eich cod post (hanfodol) a’ch dewisiadau penodol ar gyfer rhannu ceir neu siwrne e.e. ar ba ddiwrnodiau yr ydych am rannu (does dim rhaid i chi rannu bob dydd), ar ba bryd yr ydych am gyrraedd neu adael ar y diwrnodiau hynny ac ambell ddewisiad arall, p’un a ydych yn dymuno ysmygu ac ati...

Er mwyn cadw’r dewisiadau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio ar 'cyflwyno' ar waelod y dudalen, ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau.

Mewngofnodi i’r rhan o’r wefan sydd wedi’i phersonoli

Ar y dudalen groeso, mewngofnodwch drwy nodi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn y bocsys priodol ac yna clicio "mewngofnodi!". Drwy wneud hyn, byddwch yn mynd i hafan Rhannu Siwrne i Gaerdydd sydd wedi’i phersonoli ar eich cyfer. O’r fan hon gallwch chwilio am bobl a allai rannu car neu siwrne â chi, newid eich manylion personol a manylion eich cyflogaeth a newid eich cyfrinair.

Fel arfer, enw eich e-bost neu’ch cyfeiriad e-bost fydd eich enw defnyddiwr. Os ydych wedi anghofio neu golli’ch cyfrinair, ewch i’r dudalen groeso, nodwch eich enw defnyddiwr yn y 3ydd bocs a chlicio 'atgoffa fi'. Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair i rywbeth fydd yn haws i chi ei gofio na’r cyfrinair gwreiddiol a gynhyrchwyd gan y system ar eich cyfer.

Newid eich cyfrinair

I newid eich cyfrinair, cliciwch 'cyfrinair' ar eich hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau a chlicio 'parhau'. Ar y sgrin nesaf, cliciwch "parhau" i fynd yn ôl i’ch hafan neu glicio 'allgofnodi' yn y golofn ar y llaw chwith, yna ewch yn ôl i’r dudalen groeso er mwyn ceisio mewngofnodi gyda’ch cyfrinair newydd.

Newid eich manylion personol a manylion eich cyflogaeth

Er mwyn gwirio neu newid eich manylion personol, cliciwch "manylion" yn eich hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd. Gwiriwch yr holl fanylion a newid unrhyw beth sy’n anghywir.

Pan fydd unrhyw un o’ch amgylchiadau personol sy'n berthnasol i'r wefan hon yn newid, mewngofnodwch a diweddaru'ch manylion cyn gynted â phosibl.

Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau i’r manylion a’r dewisiadau uchod, cliciwch "cyflwyno" er mwyn cadw’r newidiadau hynny. Cliciwch "parhau" ar y sgrin cydnabod er mwyn dychwelyd i’ch hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd.

Diweddaru eich dewisiadau rhannu ceir neu siwrne

O’ch hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd, cliciwch "dewisiadau". Gwiriwch yr holl fanylion a newid unrhyw beth nad yw’n berthnasol bellach. e.e. ar ba ddyddiau yr ydych am rannu (does dim rhaid i chi rannu bob dydd), ar ba bryd yr ydych am gyrraedd neu adael ar y dyddiau hynny, p’un a ydych yn dymuno ysmygu ac ati...

Er mwyn cadw’r dewisiadau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio 'cyflwyno' ar waelod y dudalen.

Cliciwch "parhau" ar y dudalen gydnabod er mwyn dychwelyd i’ch hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd.

Chwilio am bobl a allai rannu car neu siwrne â chi

Er mwyn canfod pobl a allai rannu car neu siwrne â chi, cliciwch 'rhanwyr' (ar eich hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd - mae angen i chi fod wedi mewngofnodi). Drwy wneud hynny, byddwch yn mynd i dudalen y map.

Mae’r rhanwyr gwreiddiol yn cael eu darganfod o fewn radiws o 5 milltir i'ch cod post cartref neu god post eich man cychwyn, ac o fewn +/- 30 munud i’ch amseroedd cyrraedd a gadael delfrydol. Chi yw’r car gwyrdd, ac mae unrhyw gar coch yn dynodi pobl a allai rannu car neu siwrne â chi.

Os ydych chi’n dymuno newid y meini prawf hyn - er enghraifft, i chwilio drwy ardal ehangach neu am amseroedd llai pendant, dewiswch opsiynau gwahanol o'r ddwy gwymplen berthnasol a chlicio ar "chwilio".

I gael rhagor o fanylion am y rhanwyr ceir neu siwrne posibl sydd ar y system, naill ai sgroliwch i lawr y dudalen neu cliciwch ar y ddolen "rhanwyr" ar frig y dudalen. Bydd manylion cyffredinol y bobl a allai rannu car neu siwrne â chi i'w gweld mewn tabl gyda hyd at bump ar bob tudalen.

I gael rhagor o wybodaeth am y dudalen hon, neu os bydd angen cymorth pellach arnoch chi, cliciwch ar "help" ar frig tudalen y map i gael cyfarwyddiadau manylach.

Sefydlu grŵp rhannu ceir neu siwrne newydd

Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu ag aelodau eraill ac wedi trefnu i sefydlu grŵp rhannu ceir neu siwrne newydd, dylai un ohonoch fynd yn ôl ar y system a chofnodi’ch trefniadau. Mewngofnodwch i'ch hafan ar wefan Rhannu Siwrne i Gaerdydd a chlicio ar 'grwpiau'.

Dilynwch y cyfarwyddiadau, teipiwch gyfeiriadau e-bost eich aelodau a chadw’r ychwanegiadau drwy glicio ar "grŵp newydd".

Gadael Rhannu Siwrne i Gaerdydd

Os ydych am adael Rhannu Siwrne i Gaerdydd, cliciwch 'gadael'. Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau.

Problemau neu Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’ch Gweinyddwr RhannuCeirCaerdydd.

Ond mae’n rhaid i mi ddefnyddio’r car!

Lawrlwythwch ein taflen er mwyn gweld pa mor hawdd yw hi i symud tuag at ffordd mwy cynaliadwy o deithio.

Lawrlwytho PDF (442kB)

Gweld mwy o newyddion >

Ymuno fel cyflogwr   Rhowch ddewis teithio ychwanegol i’ch cyflogeion, a fydd o gymorth i gadw staff ac yn creu cyfleoedd recriwtio newydd fu gynt yn anghyraeddadwy Cynllunio teithiau   Cyngor am fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy... Cadw Caerdydd yn Symud   Yn eich helpu i gynllunio’ch taith i Gaerdydd ac o amgylch y Ddinas.
Cysylltwch â ni heddiw
Mae ein tîm Rhannu Siwrne i Gaerdydd yn barod bob tro i dderbyn eich ymholiadau a’ch awgrymiadau.
Cadw Caerdydd yn Symud
Ystafell 301, Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
© Hawlfraint Cyngor Caerdydd 2014. Cedwir pob hawl.
Dyluniwyd gan Peter Gill Datblygwyd gan Jambusters Ltd