Gwybodaeth am gyflogwyr syn defnyddior cynllun Rhannu Ceir Caerdydd

Isod ceir mwy o fanylion am rai or cyflogwyr sydd wedi ymuno Rhannu Siwrne i Gaerdydd.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru Logo

Mae Cynulliad Cymrun cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad (ACau) a gaiff eu hethol gan bobl Cymru.

Mae tua 350 o staff yn gweithio i Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen i alluogi aelodau etholedig i ymgymryd 'u gwaith craidd sef craffu ar waith Llywodraeth y Cynulliad.

Mae gradd rhagoriaeth BREEAM wedii dyfarnu ir Senedd, ein siambr drafod nodedig ym Mae Caerdydd, syn ganolbwynt i ddemocratiaeth a datganoli yng Nghymru.

A hithaun ddyletswydd statudol arnom i ystyried cynaliadwyedd, rydym wedi rhoi lle creiddiol ir agenda Werdd yn ein gwaith.

Mae holl ystd y Cynulliad ym Mae Caerdydd, gan gynnwys ein swyddfa weinyddol, Ty Hywel ar Adeilad Rhestredig Gradd 1 ar ben y pier, wedi ennill achrediad Lefel 5 y Ddraig Werdd ac rydym yn ymdrechun barhaus i wellan perfformiad amgylcheddol i leihau mwy eto ar ein hallyriadau carbon.

Mae ymuno r cynllun Rhannu Ceir Gaerdydd yn rhan annatod on cynllun teithio syn annog staff i fabwysiadu ffyrdd mwy ecogyfeillgar o deithio ir gwaith, gan leihau eu costau teithio au heffaith ar yr amgylchedd yn sgil hynny.

Mae gan y Cynulliad hefyd Dm Gwyrdd syn ymroi i wellar ffordd yr ydym yn ymgymryd n cyfrifoldebau amgylcheddol, drwy gynnig syniadau arloesol ac awgrymiadau ar gyfer dulliau mwy cynaliadwy o deithio.

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Velindre NHS Logo

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ai phencadlys yn Llys Charnwood, Parc Nantgarw, Caerdydd, ar 1 Ebrill 1994 ac mae wedi tyfun raddol i reoli cyllideb o dros 150miliwn yn 2006/07 ac i ddarparu ystod o wasanaethau arbenigol ar raddfa leol, ranbarthol a thrwy Gymru gyfan. Maer Ymddiriedolaeth yn cynnwys amrywiaeth o isadrannau syn arbenigo mewn gwasanaethau mor amrywiol gofalu am gleifion canser yn Ysbyty Felindre a rheoli Rhwydwaith Digidol Cymru Gyfan ar gyfer GIG Cymru o Atebion Iechyd Cymru yn Nhy Brunel. Mae Canolfan Ganser Felindre yn isadran o fewn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a sefydlwyd ym mis Ebrill 1994. Agorwyd y Ganolfan Ganser, gynt Ysbyty Felindre yn yr Eglwys Newydd ym 1956.

Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i 1.5 miliwn o bobl syn byw yn y de-ddwyrain. Maer ganolfan yn un o 10 o ganolfannau canser mwyaf y DU, ac wedi prysuron arw dros y blynyddoedd. Byddwn yn gweld dros 5,000 o gleifion canser newydd a bron i 50,000 o apwyntiadau gan gleifion allanol bob blwyddyn. Maer Adran yn cyflogi 600 o staff chyllid o tua 22 miliwn.

Pan fydd claf yn cael ei gyfeirio i Ganolfan Ganser Felindre, daw o dan ofal Oncolegwyr Clinigol a Meddygol syn arbenigo mewn dulliau o drin canser nad ydynt yn llawfeddygol. Maer ganolfan yn cynnig triniaethau syn cynnwys radiotherapi a chemotherapi, a gynigir fel gwasanaeth dydd. Er mai yn Ysbyty Felindre y darperir y rhan fwyaf or gwasanaethau, ceir nifer o glinigau cleifion allanol perifferol yn ne-orllewin Cymru, yn ogystal gwasanaethau cemotherapi allanol.

Lle bynnag y bo modd, mae triniaethau newydd ar gyfer cleifion allanol wedi cael eu cyflwyno fel nad oes yn rhaid i gleifion aros yn yr ysbyty. Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r ganolfan wedi prysuro ac wedi datblygu o ran cymhlethdod y gofal ar triniaethau a gynigir.

Maer ganolfan hefyd yn chwarae rl bwysig yng Nghymru wrth hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol mewn gofal a thriniaethau canser. Yn ogystal rheolir rhaglen ar gyfer hyfforddi cofrestrwyr proffesiynol mewn Oncoleg Glinigol a Meddygaeth Liniarol yng Nghymru, yr ysbyty yw canolfan adran Oncoleg Glinigol Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, dan arweiniad yr Athro Malcolm Mason, ar adran Meddygaeth Liniarol, dan arweiniad yr Athro Ilora Finlay. Maer ganolfan hefyd yn chwarae rl bwysig o ran hyfforddi nyrsys canser, fferyllwyr, a ffisegwyr meddygol ac yn darparu lleoliadau clinigol ar gyfer myfyrwyr Radiograffeg Therapiwtig o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau ac yn eicon diwylliannol. Maen gartref i naw sefydliad creadigol, syn cysylltu a chydweithion ddyddiol. Erbyn diwedd 2008 bydd hyd at 750 o bobl yn cael eu cyflogi yma.

Canolfan Mileniwm Cymru

Bydd staff yn teithio yma o gyn belled ag Abertawe yn y gorllewin a Bryste yn y dwyrain, ac o Aberhonddu ac amryw or prif drefi yng nghymoedd y de.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun Rhannu Ceir Caerdydd, nod Canolfan Mileniwm Cymru yw gwneud pethaun haws ir staff, iw helpu i gyfyngu eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau costau petrol a pharcio.

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Wedi ei sefydlu ym 1865 fel yr Ysgol Gelf, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ywr brifysgol hynaf yn Ne Cymru. Maer brifysgol yn cyflogi tua 1,200 o aelodau staff ac maen denu dros 13,000 o fyfyrwyr llawn amser a rhan amser o fwy na 140 o wledydd, gyda rhyw 10,000 o fyfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae gan y brifysgol dri champws academaidd a champws preswyl yng Nghaerdydd.

Mabwysiadwyd yr enw newydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2011, fel rhan or broses ymadael Phrifysgol Cymru. Mae cael enwr ddinas yn amlycach yn ein teitl yn helpu i gynnal enw da Caerdydd fel Prifddinas Dysg.

Mae ein Cynllun Teithio yn cael ei gydnabod yn helaeth fel enghraifft o arfer gorau mewn cynllunio teithio yn Ne-ddwyrain Cymru. Enillodd Wobr Cynllunio Teithio Cymru, Lefel Aur, yn 2011.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar gynllunio teithio, cysylltwch :

Neil Woollacott ar 029 2041 6712 neu e-bostiwch travel@cardiffmet.ac.uk

BBC Cymru Wales

BBC Cymru Wales yw darlledwyr cenedlaethol Cymru, yn darparu gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg.

BBC Cymru Wales HQ

Mae pencadlys BBC Cymru Wales yn Llandaf, Caerdydd, ac mae gan y gorfforaeth hefyd stiwdios a swyddfeydd ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth, Abertawe a Chaerfyrddin.

Bydd BBC Wales yn cynhyrchu dros 16 awr o raglenni teledu Saesneg yr wythnos, wediu cynllunio ar gyfer cynulleidfa Gymreig. Darlledir y rhain ar BBC ONE Wales a BBC TWO Wales. Yn ychwanegol at hyn, cynhyrchir 10 awr yr wythnos o raglenni teledu Cymraeg iw darlledu ar S4C. Mae BBC Cymru Wales hefyd yn cynnal gwasanaethau ar-lein cynhwysfawr yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ar y radio, gall gwrandawyr glywed 19 awr o raglenni Saesneg bob dydd, yn ogystal ag 20 awr y dydd yn y Gymraeg ar BBC Radio Cymru. Mae BBC Wales hefyd yn cyfrannun sylweddol at y rhaglenni teledu a radio a ddarlledir ledled y DU, drwy gynyrchiadau megis Doctor Who a Torchwood.

Dŵr Cymru

Cwmni dielw yw Dŵr Cymru syn darparu dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth i fwy na thair miliwn o bobl syn byw ac yn gweithio yng Nghymru ac yn rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr.

DCWW logo

Mae gennym 1.3 miliwn o gwsmeriaid preswyl a mwy na 100,000 o gwsmeriaid busnes. Ein cyfrifoldeb pennaf yw gweithredu, cynnal ac uwchraddion hasedion, fel gweithfeydd trin dŵr, cronfeydd, pibellau a charthffosydd, er mwyn sicrhau cyflenwad dŵr yfed diogel a dibynadwy i gwsmeriaid a delion effeithiol gyda dŵr gwastraff i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol.

Drwy gynllunio a chydbwysor tyniadau o ddwr croyw dychwelyd dwr gwastraff yn ddiogel mae'r cwmni'n ymdrechu i gadw bioamrywiaeth y rhanbarth yn gyflawn.

Yn 2007, cyhoeddwyd ein Datganiad Cyfeiriad Strategol neu Gynllun 25 Mlynedd o dan yr enw Dwr Cymru: 'Ein Dyfodol Cynaliadwy'. Ynddo, rydym yn pennu targedu uchelgeisiol i leihau ein hl troed carbon gan 25% erbyn 2015 a chan 50% erbyn 2035. Rydym yn gobeithio y bydd ymuno RhannuCeirCaerdydd yn ein helpu i gyflawnir uchelgeisiau hyn.

Yn gynharach eleni (2010) dyfarnwyd Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon i ni ar l i ni ddangos ein hymrwymiad i leihau carbon drwy ein timau ynni ac amgylchedd. Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon ydy'r cynllun gwobrwyo carbon cyntaf yn y byd syn gofyn i sefydliad fesur, rheoli a lleihau ei l troed carbon a gwneud lleihad go iawn flwyddyn ar l blwyddyn. Y wobr yw'r unig ffordd i sefydliadau brofi eu bod yn mynd i'r afael newid yn yr hinsawdd au bod wedi gwneud gwir leihad yn eu hallyriadau carbon. Yn wahanol i gynlluniau gwobrwyo eraill, maer gofyn i sefydliadau weithredu eu hunain yn hytrach na thalu eraill i leihau carbon drwy wrthbwyso.

Mae gennym hefyd bedwar Tm Gwyrdd dynodedig yng Nghymru syn ymroi i wneud gwelliannau cynaliadwy yn y ffordd yr ydym yn gweithio.

Ond maen rhaid i mi ddefnyddior car!

Lawrlwythwch ein taflen er mwyn gweld pa mor hawdd yw hi i symud tuag at ffordd mwy cynaliadwy o deithio.

Lawrlwytho PDF (442kB)

Gweld mwy o newyddion >

Ymuno fel cyflogwr   Rhowch ddewis teithio ychwanegol ich cyflogeion, a fydd o gymorth i gadw staff ac yn creu cyfleoedd recriwtio newydd fu gynt yn anghyraeddadwy Cynllunio teithiau   Cyngor am fesurau i hyrwyddo teithio cynaliadwy... Cadw Caerdydd yn Symud   Yn eich helpu i gynllunioch taith i Gaerdydd ac o amgylch y Ddinas.
Cysylltwch ni heddiw
Mae ein tm Rhannu Siwrne i Gaerdydd yn barod bob tro i dderbyn eich ymholiadau ach awgrymiadau.
Cadw Caerdydd yn Symud
Ystafell 301, Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir, Glanfar Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
© Hawlfraint Cyngor Caerdydd 2014. Cedwir pob hawl.
Dyluniwyd gan Peter Gill Datblygwyd gan Jambusters Ltd